Disgrifiad
Cymraeg
Sefydlwyd Posib ar grefft cyfieithu ac yna ymledodd i gynnwys crefft trawsgrifio. Mae’n rhwydd dros ben comisiynu cyfieithiad:
- Dewiswch ‘Ychwanegu at y Dyfynbris’ er mwyn rhoi manylion eich prosiect inni a gallwch chi uwchlwytho unrhyw ffeiliau rydych chi angen inni eu cyfieithu.
- Fel arall, gallwch e-bostio’r ffeil i ymholiadau@posib.co.uk
- Yna byddwn yn rhoi pris i chi am y gwaith, ar sail nifer y geiriau.
- Byddwn yn cytuno ar derfyn amser gyda chi ac yn dechrau’r gwaith.
- Yna bydd y cyfieithiad yn mynd drwy broses rheoli ansawdd.
- Daw’r ddogfen yn ôl atoch yn barod i’w defnyddio.
- Os bydd y dylunydd wedi gwneud y cysodi, anfonwch y ddogfen yn ôl atom i’w phrawfddarllen eto – dim ond i sicrhau fod popeth yn iawn cyn ei chyhoeddi.
- Gallwn ofyn i chi am flaendal cyn dechrau’r gwaith, oni bai fod gennych gyfrif gyda ni. Cofiwch gysylltu â ni os ydych eisiau telerau credyd.
- Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y broses hon, rhowch alwad i ni ar 01352 757273 neu e-bostio ymholiadau@posib.co.uk
Ieithoedd eraill
Rydym yn rhwydweithio gyda chyfieithwyr sy’n arbenigo mewn pob math o wyddorau ac ieithoedd gwahanol.
Yn ystod yr ugain mlynedd aeth heibio, rydym wedi cael cyfieithiadau mewn amrywiaeth o ieithoedd, o Bortiwgaleg Brasil i Georgeg.
Nid ydym yn esgus bod yn rhywbeth nad ydym. Rydym yn arbenigo yn y Gymraeg ac, yn aml iawn, mae’n gwneud synnwyr i ni fod yn ‘drefnydd partneriaethau’. Yna gallwch ddelio’n uniongyrchol â’r cyfieithwyr dan sylw. Os ydych eisiau gwybod ychydig mwy, yna cofiwch ddweud wrthym.