Disgrifiad
Trawsgrifio Cyfreithiol
Trawsgrifiadau air am air o recordiadau clywedol a gweledol:
- Cyfweliadau’r heddlu – PACE ac ABE
- Recordiadau dirgel
- Datganiadau tystion
- Cynadleddau dros y ffôn
- Gwrandawiadau a chwestau
Rydym yn ymwybodol iawn fod modd i’r geiriau mewn trawsgrifiad yn effeithio ar fywydau pobl. Gwyddom fod sylw i fanylion a chywirdeb yn hanfodol, fel y mae cyflymder. Mae ein blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth arbenigol yn golygu ein bod yn gwybod sut i ofalu am eich buddiannau. Buom yn ymdrin â data sensitif ers dros ugain mlynedd ac rydym yn deall effaith oedi ar bobl, yn enwedig ar blant.
Hogwyd ein sgiliau ar drawsgrifiadau llys, ar ôl gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar achosion di-rif am fwy nag un mlynedd ar ddeg. Erbyn hyn rydym yn troi ein dwylo at y deunydd ategol sydd ei angen ar gyfer achosion llys. Wrth wneud hynny, byddwn yn trin y wybodaeth fwyaf sensitif yn y ffordd fwyaf diogel, a dystiwyd gennym gyda’n hachrediad Hanfodion Seiber, cynllun achredu diogelwch data’r Llywodraeth.
Trawsgrifiadau Rhyngrwyd
Trawsgrifiadau wrth fesur o recordiadau clywedol a gweledol:
- Isdeitlau
- Gweminarau
- Podlediadau
- Blogiau
Nid yw bob amser yn hawdd i bobl wrando yn ogystal â gwylio fideo ac fe all negeseuon marchnata hanfodol fynd ar goll. Os ydych yn cynnig trawsgrifiad, mae modd darllen y geiriau hollbwysig a hyd yn oed eu lawrlwytho at eto.
Fe all trawsgrifiadau fod yn hynod werthfawr mewn tair prif ffordd o’u defnyddio ochr yn ochr â fideos:
- Gwell mynegeio cynnwys gan Google ac YouTube
Nid yw Google ac YouTube yn dda iawn am ‘ddarllen’ delweddau ac, felly, mae angen testun i osgoi problemau wrth drefnu cynnwys fideo mewn chwiliadau. Fe all trawsgrifiad o’r geiriau ar fideo wneud gwahaniaeth mawr pan ddaw’n amser mynegeio cynnwys ac mae’n gwneud SEO gymaint â hynny’n fwy effeithlon.
- Cipio sylw a’i gadw
Mae gwylio fideo’n rhyfeddol ond mae gwybod beth yw’r geiriau y tu ôl i’r delweddau’n well fyth. Dyna sail y neges farchnata. Mae trawsgrifiad yn ei gwneud yn haws cysylltu â’ch cynulleidfa a thynnu eu sylw at yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Bydd pobl yn hoffi teimlo bod eu hanghenion yn cael eu hystyried. Fe all trawsgrifiad, y gallant ei lawrlwytho a’i darllen rywbryd eto, yn ychwanegu’r cyffyrddiad personol hwnnw sy’n brin ar wefannau’n aml.
- Cynnwys pawb
Nid pawb sy’n gallu clywed yn dda iawn ac ni all rhai pobl glywed o gwbl. Fe all eraill fod yn gweithio mewn mannau swnllyd. Bydd rhai’n gorfod diffodd y sain oherwydd ble maent. Caiff cyfleoedd marchnata eu colli’n aml oherwydd dim mwy na diffyg trawsgrifiad. Mae modd datrys rhwystrau iaith hyd yn oed gyda thrawsgrifiad oherwydd bod modd ei gyfieithu wedyn. Mae mwy a mwy o weithwyr marchnata proffesiynol yn troi at drawsgrifiadau. Mae trawsgrifiad yn chwalu rhwystrau ac yn agor cynulleidfaoedd newydd. Cynwysoldeb yw popeth.
Mae’n hawdd comisiynu prosiect trawsgrifio:
- Dewiswch ‘Ychwanegu at y Dyfynbris’ er mwyn rhoi manylion eich prosiect inni a gallwch chi uwchlwytho unrhyw ffeiliau rydych chi angen inni eu trawsgrifio.
- Fel arall, gallwch e-bostio’r ffeil i ymholiadau@posib.co.uk
- Yna byddwn yn rhoi pris i chi am y gwaith, ar sail nifer y geiriau.
- Byddwn yn cytuno ar derfyn amser gyda chi ac yn dechrau’r gwaith.
- Yna bydd y cyfieithiad yn mynd drwy broses rheoli ansawdd.
- Daw’r ddogfen yn ôl atoch yn barod i’w defnyddio.
- Os bydd y dylunydd wedi gwneud y cysodi, anfonwch y ddogfen yn ôl atom i’w phrawfddarllen eto – dim ond i sicrhau fod popeth yn iawn cyn ei chyhoeddi.
- Gallwn ofyn i chi am flaendal cyn dechrau’r gwaith, oni bai fod gennych gyfrif gyda ni. Cofiwch gysylltu â ni os ydych eisiau telerau credyd.